Skip page header and navigation

Hafan | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Dewiswch Eich Stori

Student sat in 1822

Dewiswch Eich Stori Chi

Byddwch yn arwr eich stori eich hun, trwy gael yr addysg mae arnoch chi ei heisiau. Mae 20 maes pwnc gennym i chi ddewis o’u plith ac mae gan bob un ystod gynhwysfawr o gyrsiau i’ch ysbrydoli chi. Mae’n amser cydio yn eich dyfodol gyda dwy law a gwneud eich uchelgeisiau’n realiti. 

Rydym ni’n cynnig profiad mwy personol - dosbarthiadau llai a darlithoedd diddorol, gyda digonedd o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan, gan ganiatáu trafodaeth a gwell dealltwriaeth o’r pwnc. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr pwnc a fydd yn addysgu i chi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo ym mhennod nesaf eich stori.

More to Explore

four students on beach playing in shallow water

Cydiwch yn eich dyfodol â dwy law.

Gwyddom y byddwch wrth eich bodd yn astudio gyda ni. P’un a ydych yn chwilio am radd baglor, sylfaen, meistr neu ddoethuriaeth, mae ein harbenigwyr wrth law i helpu i’ch tywys bob cam o’r ffordd. 

O gyngor ar wneud cais drwy UCAS, neu wneud cais uniongyrchol, mae gennym gynghorion da i wneud y broses ymgeisio mor llyfn â phosibl, a chofiwch nad yw hi byth yn rhy hwyr i wneud cais. 

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Darganfyddwch Ein Campysau

Ewch allan o’r ystafell ddosbarth. Pen i lawr yn y llyfrgell. Trafodwch syniadau newydd. Darganfyddwch straeon o’r gorffennol. Mwynhewch fwrlwm bywyd y ddinas. Anadlwch awyr y môr. Mae gan bob un o’n prif gampysau ei naws unigryw ei hun, sy’n rhoi’r lleoliad delfrydol i chi ddechrau eich taith.

Dechreuwch Eich Antur

Byddwch yn ymgolli mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfa ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol wrth i chi fynd yn eich blaen. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, byddwn yn eich helpu i gychwyn yn llwyddiannus gyda’ch nodau yn gadarn yn y golwg. 

Gyda graddau mewn celf a dylunio, peirianneg, cyfrifiadura, y dyniaethau, addysg, busnes, rheolaeth, iechyd a chwaraeon, mae gennym gannoedd o opsiynau i ddewis ohonynt. 

Ffeithiau a Ffigurau